Sefydlwyd Grŵp Pentraeth yn 1980 ac mae'n dal ym mherchnogaeth wreiddiol y Rheolwr Gyfarwyddwr, Mr Ken Jones.
Y Masnachfreintiau
Mae'r Grŵp wedi parhau i ffynnu ar draws Gogledd Cymru ac mae'n un o'r rhai sy'n arwain ym maes Diwydiant Moduron y DU. Rydym yn brif werthwyr ceir i Mazda, Volkswagen, Audi, Suzuki, SEAT, Mitsubishi a Honda.
Cerbydau Ail Law o Safon gyda Hanes Cefndir
Archwilir pob cerbyd yn drwyadl gan edrych ar y milltiroedd mae wedi'i wneud, nifer y perchnogion, hanes cefndir, cyflwr technegol a difrod trwy ddamweiniau. Mae pob car ail law hefyd yn cael archwiliad Experian HPI - archwiliad cynhwysfawr sy'n edrych ar hanes cefndir, milltiroedd a chyllid ynglyn â'r cerbyd.
Gwasanaethau Proffesiynol
Mae gennym staff sydd wedi'u hyfforddi'n broffesiynol a chewch groeso cynnes a chyfeillgar yn unrhyw un o'n masnachfreintiau. Beth bynnag yw eich ymholiad, bydd pobl brofiadol yn eich trin yn gwrtais ac yn egluro'n llawn beth yw manteision unrhyw gerbyd sydd o ddiddordeb i chi, yn ogystal â'r gwasanaethau helaeth y mae'r Grŵp yn eu cynnig.
Ein Hymrwymiad
Rydym yn buddsoddi'n barhaus mewn hyfforddiant, systemau a phrosesau ar gyfer ein staff er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn derbyn gofal o'r radd flaenaf. Nod Pentraeth o ran Cenhadaeth yw darparu gwasanaeth cyflym, effeithiol, dibynadwy a chyson, sy'n rhagori ar ddisgwyliadau'n holl gwsmeriaid.
Gofalu Amdanoch Chi, Y Cwsmer
Rydym yn arbenigo mewn moduro un stop. Rydym yn cynnig gwasanaeth trin ceir i gerbydau o bob gwneuthuriad a gwasanaeth nôl a danfon am ddim.
Diogelu'r Amgylchedd
Ein nod yw defnyddio defnyddiau y gellir eu hailgylchu lle bo hynny'n bosibl. Gwaredir pob gwastraff yn unol â deddfwriaeth bresennol, gan ddiogelu ein hamgylchfyd gwerthfawr.
Cliciwch ar y gwerthwr ceir i gael manylion sut i gyrraedd.